Dewch i ymuno â'n Clwb Cychwyn Cyntaf sy'n cael ei gyflwyno'n drwy’r Gymraeg.
Yn ein sesiwn olaf o'r gyfres byddwn yn edrych ar wahanol fathau o fodelau busnes, gan brofi gwahanol opsiynau a gwneud dewis ar yr un iawn i chi.
Byddwn hefyd yn archwilio cyfuno ac addasu modelau i ddod o hyd i opsiwn sy'n iawn i chi. Byddwn yn rhannu rhai ffyrdd anghonfensiynol y gallech fodelu eich busnes a darganfod ffyrdd newydd y gallwch fynd ag eich cynnyrch neu wasanaeth i’r farchnad.
Bydd tasgiau yn eich helpu i ddeall eich model presennol a'i brofi, gan wneud y newidiadau sydd eu hangen arnoch i gysoni eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Disgrifiad byr
Yn y sesiwn hon byddwn yn archwilio gwahanol fathau o fodelau busnes ac yn eich helpu i osod eich rhai chi mewn carreg a sefydlu a hoelio eich amcanestyniadau busnes.
Beth yw e?
Ymarferion i ddeall eich model busnes presennol, sut i'w brofi, sut i ystyried modelau busnes eraill a'r rhai nad ydynt efallai bob amser yn syml. Nodwch ffyrdd eraill y gallech chi wneud eich syniad yn llwyddiant trwy arloesi model busnes.